Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol 

Sut orau y gellir cefnogi’r sector diwylliant yng Nghymru i weithio’n rhyngwladol?

Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022

12:00 - 13:00

 

 

Yn bresennol:

Heledd Fychan AS (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AS

 

 

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

Rhun Davies, Ymchwilydd Seneddol, Y Senedd

Sion Edwards, Cyfieithydd, Staff Comisiwn Y Senedd

Eluned Haf, Cyfarwyddwr, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Alex Hughes-Howells, Ymchwilydd a Gweinyddwr Cyfryngau, Ceidwadwyr Cymru

Katie James, Arts Infopoint UK,  Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Eleri Morgan, Cyfieithydd,

Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaethau, Hub Cymru Affrica

Catherine Paskell, Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Dirty Protest

Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru

Robin Wilkinson, Uwch Swyddog Ymchwil, Y Senedd

Alison Woods, Cyfarwyddwr Gweithredol, NoFit State

Rhiannon Wyn Hughes, Cyfarwyddwr Gwyliau, Gŵyl Ffilm Ieuenctid Wicked Wales

 

 

Jenny Scott, Cyfarwyddwr - British Council Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Mathilda Manley-Lewis, Swyddog Cymorth Prosiect, British Council Cymru

Natasha Nicholls, Pennaeth Celfyddydau, British Council Cymru

Rebecca Wignall, Rheolwr Celfyddydau, British Council Cymru

Maija Evans, Rheolwr Addysg, British Council Cymru

 

 

 

1.     Croeso gan y Cadeirydd

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb cyn dechrau’r cyfarfod. Gwahoddwyd sylwadau a thrafodaeth am y gefnogaeth sydd ei angen ar y sector diwylliant yng Nghymru i weithio’n rhyngwladol wrth adfer wedi Covid, yng nghyd-destun y byd ar ôl Brexit ac yng ngoleuni Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

 

2.     Cyflwyniad gan Alison Woods, Cyfarwyddwr Gweithredol, NoFit State

Pwy ydym ni:

·         Cwmni sy’n teithio yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Mae gyda ni brofiad o naill ochr a llall cyfnewid rhyngwladol, h.y. rydym yn dod ag artistiaid rhyngwladol i Gymru yn ogystal â theithio ein cynhyrchiadau o gwmpas y byd.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud:

·         Rydym wedi bod yn teithio cynhyrchiadau’n rhyngwladol ers nifer o flynyddoedd ac mae gennym staff yn y cwmni sy’n helpu gyda logisteg teithio dramor.

·         Gan fod gyda ni brofiad yn barod o deithio’r tu hwnt i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, roeddem yn barod ar gyfer rhai o’r heriau a grewyd gan Brexit gan fod y meini prawf newydd ar gyfer teithio’r Undeb Ewropeaidd eisoes yn berthnasol i wledydd nad ydynt yn rhan o’r undeb Ewropeaidd / artistiaid rhyngwladol.

 

Heriau gweithio’n rhyngwladol:

·         Mae ystyriaethau ymarferol a logistaidd wedi codi yn sgil Brexit: cynnydd mewn biwrocratiaeth, gwaith papur, llenwi ffurflenni, newidiadau yn y wybodaeth ar gyfer gwahanol wledydd a diffyg cysondeb rhwng gwahanol wledydd ac o fewn gwledydd unigol, ee gwahanol reolau ar gyfer carnets rhwng gwahanol deithiau wrth groesi’r sianel.

·         Mae angen ymestyn amserlenni gwaith ar gyfer y cynllunio a pharatoi ychwanegol, ee fe gymerodd 2 berson tua chwe diwrnod i gwblhau’r gwaith papur angenrheidiol, fisas ayb ar gyfer cynhyrchiad newydd a oedd yn cynnwys 5 artist o’r Undeb Ewropeaidd. Roedd y costau a gododd ar draul sgil effeithiau Brexit yn £1000 ar gyfer pob person, a ni chyrhaeddodd y fisas tan ychydig ddyddiau’n unig cyn ein dyddiad ymadael.

·         Mae’r broses o breifateiddio gwasanaethau consylaidd wedi’i gwneud yn anodd cael gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd.

·         Mae rhai cwmnïau yn yr Undeb Ewropeaidd yn amharod i allforio i’r Deyrnas Unedig oherwydd y gost a’r fiwrocratiaeth ychwanegol. Er enghraifft, fe lwyddom i gael offer draw i’r Deyrnas Unedig, ond fe gostiodd hynny 30% yn fwy i ni.

 

 

Beth allai’r Senedd / Llywodraeth Cymru ei wneud:

·         Datgan yn glir a chroyw fod Cymru ar agor. Wedi Brexit mae canfyddiad pendant nad oes gan y Deyrnas Unedig ddiddordeb bellach mewn partneriaethau na mentrau cydweithio rhyngwladol. Mae angen herio’r argraff hon.

·         Rhoi pwysau ar Westminster i ddatblygu set o reolau/canllawiau cydlynol a darparu gwybodaeth glir ac amserol am union natur y rheolau hynny.

·         Byddai meithrin cysylltiadau uniongyrchol rhwng Cymru a gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd yn gam gwerthfawr. A oes modd “llamu” dros Westminster a dechrau datblygu partneriaethau/cytundebau dwyochrog gyda llywodraethau mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd?

·         Helpu i glirio niwl y dryswch/argraff mewn rhai gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd nad oes modd bellach i sefydliadau ffurfio cytundebau gyda chwmnïau yn y Deyrnas Unedig.

 

3.     Cyflwyniad gan Catherine Paskell, Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Dirty Protest

Pwy ydym ni:

·         Rydym yn gwmni theatr annibynnol sy’n creu incwm drwy werthiant tocynnau, incwm partneriaethau a thrwy godi arian.

 

Yr hyn yr ydym yn ei wneud:

·         Rydym yn gweithredu model lleol-rhyngwladol, h.y. gweithio gyda chymunedau ac artistiaid yng Nghymru a’u cysylltu â’r byd.

·         Mae ein gwaith yn ymwneud â’r rhyng-gysylltedd rhwng tlodi, trais ac iechyd meddwl. 

·         Mae ein gwaith rhyngwladol yn cynnwys:

o    Ymchwil i’r modd y mae pobl ifanc yn Ne Cymru a De America wedi symud eu gwaith a’u bywydau cymdeithasol arlein a’u dewisiadau o ran cael at wasanaethau.

o    Cysylltu pobl ifanc yn Ne Cymru gyda phobl frodorol tiriogaethau Xingu ym Masn yr Amazon gan ddefnyddio newid yn yr hinsawdd fel thema – cyflwynwyd y prosiect yn ystod COP26.

o    Creu digwyddiad On the Horizon gyda phartneriaid yn Iwerddon, gyda chefnogaeth Cwnsler Cyffredinol Iwerddon, i fanteisio ar gysylltiadau gyda chwmnïau yn Iwerddon i ddarparu cyfleoedd i gymunedau ac artistiaid weithio’n agosach.

o    Roeddem yn un o sylfaenwyr rhwydwaith AREA (Arts in Rural European Areas) ar y cyd â grŵp o ymarferwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol yn Ewrop.

 

Heriau gweithio’n rhyngwladol:

·         Dros y ddwy flynedd ddiwethaf cafodd ein hincwm ei ddinistrio gan y bu’n rhaid i ni ganslo pob un o’n teithiau; ond fe lwyddom i achub y cwmni drwy ein gwaith rhyngwladol a’r Gronfa Adferiad Diwylliannol (13 o swyddi).

·         Bu ein gallu i barhau i weithio’n rhyngwladol drwy fodel hybrid o ddigwyddiadau arlein, digidol ac wyneb yn wyneb yn fodd i gynnal ein presenoldeb.

·         Mae ein model hybrid (digidol ac wyneb yn wyneb) wedi ein galluogi i gysylltu ag artistiaid/cymunedau na fyddem wedi gwneud fel arall. Cyn y pandemig roedd mwy o ddisgwyliadau o ran teithio’n rhyngwladol i gyfarfod a gweithio wyneb yn wyneb.

·         Mae cysylltiadau rhyngwladol wedi ein galluogi i greu mwy o incwm. Wrth weithio’n rhyngwladol mae pobl eraill yn awyddus i weithio gyda chi a dysgu gennych.  Er enghraifft, oherwydd ein gwaith gyda’r iaith Gymraeg mae’r llywodraeth leol yn Malta yn ymgynghori â ni am ffyrdd i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc deimlo’n falch o’r iaith Faltaidd. Gall artistiaid fod yn llysgenhadon a chefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi rhyngwladol.

 

Beth allai’r Senedd / Llywodraeth Cymru ei wneud:

·         Cydnabod a hyrwyddo’r syniad fod gweithio’n rhyngwladol yn bwysig i Gymru ac annog mwy o sefydliadau ac artistiaid i wneud hynny. Drwy ein gweithgareddau rhyngwladol fe lwyddom i ddal i weithio gan fod partneriaid dramor wedi parhau i weithio pan ddaeth pethau i ben yn y Deyrnas Unedig.

·         Cymorth – gan gynnwys cymorth ariannol – ar gyfer meithrin a datblygu partneriaethau: teithio; fisas, cynllunio a gwaith papur. Nid yw ein cwmni yn un o sefydliadau’r ‘Portffolio Celfyddydau’ (h.y. nid ydym yn derbyn grant blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru) ac mae llawer o’n gwaith yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr. Yn arferol, dim ond arian ar gyfer y cynnyrch terfynnol a gynigir gan fentrau ariannu ar gyfer prosiectau rhyngwladol – ni chynhwysir unrhyw gostau paratoi/costau staff.

·         Herio’r canfyddiad fod drysau Cymru wedi’u cau; a herio’r argraff yng Nghymru mai dim ond sefydliadau mawr sydd wedi’u hariannu’n sylweddol sy’n gallu gweithio’n rhyngwladol.

·         Cydnabod pwysigrwydd modelau newydd o weithio – yn ddigidol, hybrid. Mae’r rhain yn werthfawr o ran creu cysylltiadau a chynyddu gwytnwch y sector celfyddydau yng Nghymru.

 

4.     Trafodaeth a Sylwadau

Diolchodd Heledd Fychan i Alison Woods a Catherine Paskell am eu cyflwyniadau a nododd bod nifer o fynychwyr y cyfarfod yn cydnabod yr heriau a’r materion a godwyd gan y cyflwyniadau ac y byddai aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol yn gallu dilyn trywydd nifer o’r pwyntiau a godwyd gyda’r Dirprwy Weinidog. Nododd hefyd fod y Strategaeth Ryngwladol yng Nghymru wedi cael ei datblygu cyn dyfodiad Covid a chyn amlygu rhai o oblygiadau Brexit a gofynnodd am sylwadau pobl am hyn.

 

Cytunodd Rhun ap Iorwerth bod golwg wahanol ar weithio’n rhyngwladol bellach gan fod y Strategaeth Ryngwladol wedi cael ei chyhoeddi cyn Covid. Mae’r platfformau rhyngwladol yr ydym yn eu defnyddio yn gryfach nawr ac felly mae mwy o gyfleoedd ar gael i ni. Felly, gallai’r hyn sydd wedi’n cryfhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf hefyd gryfhau ein Strategaeth Ryngwladol.

 

Dywedodd Claire O’Shea fod llawer o’r drafodaeth yn ymwneud â’r anhawsterau sy’n codi wrth geisio teithio dramor a tybed a oedd anhawsterau tebyg yn codi wrth geisio sicrhau fisas i berfformwyr deithio i’r Deyrnas Unedig – a sut mae hynny’n dylanwadu ar y canfyddiad dramor o’r Deyrnas Unedig. Nododd ei bod yn gweithio gyda Chymru Masnach Deg a’i bod wedi cael trafferth i sicrhau fisas i gynhyrchwyr, yn enwedig o wledydd incwm isel.

Tynnodd Eluned Haf sylw at y bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Nododd Rhiannon Wyn Hughes ei bod wedi cael profiadau tebyg i Catherine o ran defnyddio modelau hybrid gyda gwaith ei sefydliad ym maes pobl ifanc a ffilm. Roeddent wedi gweld mwy o frwdfrydedd gan bartneriaid rhyngwladol i ddatblygu prosiectau arlein a bu’n gyfnod cynhyrchiol – ac mae ymgysylltu byd-eang wedi cyflwyno agweddau arloesol i’w gwaith. Nododd hefyd fod heriau’n bodoli cyn Covid/Brexit (ee cael at ariannu); bod mwy o gostau a chymlethdodau wedi codi’n sgil Brexit (ee mynd â phobl ifanc i wyliau dramor a sicrhau bod ymwelwyr rhyngwladol yn gallu ymweld â gwyliau yng Nghymru). Mae cymorth gyda fisas yn bwysig gan fod y rhan helaeth o waith ei sefydliad yn digwydd drwy wyliau, sy’n gyfryngau ardderchog i gyflawni llawer o weithgarwch a chreu argraff mewn cyfnod byr.

 

Roedd David Anderson yn cefnogi popeth a ddywedwyd yn llawn, a hefyd yn cynnig persbectif ychydig yn wahanol wrth bwysleisio’r gwahaniaethau o ran ideoleg rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r sector diwylliant yng Nghymru. Nododd er enghraifft, tra bod consensws cryf yn y sector diwylliant am yr angen am newid o ran cydraddoldeb hiliol, nad oedd geiriau fel ‘dadwladychu’ at ddant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod angen i Lywodraeth Cymru a’r Senedd ddatgan yn glir fod y sector diwylliant yng Nghymru yn arddel safbwyntiau gwahanol ar y materion hyn.

 

Nododd Heledd Fychan fod y syniad y tynnodd Alison sylw ato yn ei chyflwyniad fod y Deyrnas Unedig ‘ar gau’ ac effaith hynny ar Gymru yn fater a godwyd yn flaenorol gyda’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Hefyd, awgrymwyd fod diffyg gweinidog âphortffolio rhyngwladol penodol yn Llywodraeth Cymru yn rhwystr i’r gwaith o amlygu presenoldeb Cymru, a gofynnodd am sylwadau pobl am hyn. Cytunodd Heledd fod David wedi gwneud pwynt pwysig am ddadwladychu a’n bod ni’n cael ein hannog i beidio â thrafod materion sy’n bwysig i Gymru; fel y digwyddodd yng nghyd-destun pasio Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n tynnu’n groes i nod Cymru o fod yn ‘Genedl Noddfa’.

 

Nododd Katie James ei bod yn gweithio i Arts Infopoint UK, menter beilot rhwng cynghorau celfyddydau pedair gwlad y Deyrnas Unedig dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy’n gweithredu fel pwynt canolog i ddarparu gwybodaeth ymarferol ac adnoddau i artistiaid, gweithwyr proffesiynol yn y meysydd creadigol a sefydliadau sy’n ymweld â’r Deyrnas Unedig. Dywedodd mai nod eu gwaith yw ffeindio’r bylchau mewn gwybodaeth a chael eglurder ar yr elfennau hynny i’w rannu gyda’r sector diwylliant. Byddant yn cynnal Bore Coffi Symudedd Rhyngwladol Artistiaid cyn bo hir – rhagor o fanylion yma

Nododd Jenny Scott fod Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a oedd yn methu bod yn bresennol, wedi anfon rhai sylwadau ac argraffiadau ar gyfer y cyfarfod:

·         Materion ymarferol yn deillio o brofiadau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru o redeg prosiectau cyfnewid rhyngwladol yn ystod Covid ac ar ôl Brexit, gan gynnwys:

 

o    Trefniadau fisa ar gyfer gwirfoddolwyr o Ewrop yn cymryd tipyn mwy o amser staff na chyn Covid

o    Mae pryderon am y Gordal Iechyd sy’n cael ei gynnig ym MilCenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn ymgyrchu i eithrio gwirfoddolwyr rhyngwladol o hyn

o    Mae’r ffactorau hyn, yn ogystal â chyfyngiadau teithio Covid ym mhob gwlad, yn golygu bod angen mwy o adnoddau o ran staff a chyllid er mwyn gweithio’n rhyngwladol

o    Byddai cyngor dwyieithog o ran ateb gofynion teithio yn Ewrop ar ôl Brexit yn ddefnyddiol.

 

·         Daw’r pwyntiau canlynol ar werthoedd o sylwadau a wnaed yn ystod cyfres ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ (Globally Responsible Wales) a gynhaliwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar y cyd ag Oxfam yn 2021, gan gynnwys:    

 

o    Mae’n bwysig ein bod yn arfer dull sy’n gynaliadwy a chyfrifol gyda’n holl waith rhyngwladol gan sicrhau ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth pobl yng Nghymru wrth gysylltu’n rhyngwladol; a bod ein gwaith rhyngwladol yn ymgorffori dulliau gwrth-hiliol yn ogystal â dealltwriaeth ac arfer gadarn o ran diogelu, diwydrwydd dyladwy o ran hawliau dynol a deinameg grym.

o    Er bod cyfnewid rhithwir yn arf atodol anhygoel, ni all gymryd lle cyfnewid wyneb yn wyneb. Ond, rhaid inni i gyd leisio’r her sy’n ein hwynebu o ran ceisio cydbwyso’r budd aruthrol a ddaw drwy gyfnewid diwylliannol rhyngwladol ar y naill law ac effaith negyddol teithio rhyngwladol ar yr hinsawdd, argyfwng byd natur ac amcanion y cynllun sero net ar y llall.

·         Er cydnabod gwerth potensial Taith (rhaglen gyfnewid addysgu a dysgu rhyngwladol newydd Cymru) fel cyfrwng i roi cymorth i’r sector diwylliant yng Nghymru weithio’n rhyngwladol, bydd angen craffu digonol i sicrhau ei fod yn ateb y galw ar draws yr holl sectorau targed a chynnig cyfle i holl bobl ifanc Cymru.

 

Nododd Rhiannon Wyn Hughes, er bod y Strategaeth Ryngwladol yn sôn am ‘genedl y genhedlaeth nesaf’ nid yw’n rhoi sylw i rôl pobl ifanc yn y broses o ddatblygu Cymru’r dyfodol. Nododd fod pobl yng Nghymru’n dueddol o weithio mewn pocedi bach, ac y gellid cyflawni mwy petaem ni’n gweithio gyda’n gilydd a rhannu cysylltiadau a syniadau. Dywedodd Rhiannon y byddai hefyd yn croesawu mwy o gyfleoedd i gael at ariannu i’w ddefnyddio ar gyfer cynllunio dros dymor hirach wrth baratoi ar gyfer gweithio’n rhyngwladol. Achos yn aml nid yw ariannu ar gyfer prosiectau rhyngwladol yn caniatáu ar gyfer ymchwil, cynllunio strategol tymor hir ac adeiladau ar waith prosiectau llwyddiannus.  

 

Gan dynnu ar ei phrofiad yn Llenyddiaeth Cymru (ac ategu sylwadau David), nododd Lleucu Siencyn nad yw gwerthoedd nifer o sefydliadau celfyddydau Prydeinig a ariennir yn cyd-fynd âgwerthoedd Llenyddiaeth Cymru ac nad ydynt yn addas ar gyfer eu cleientiaid. Byddent yn croesawu cyfle i rannu  arfer gorau ac, er enghraifft, creu rhestr wirio y gellid ei defnyddio pan fydd defnyddiwr yn cydweithio ar lefel Brydeinig gyda chorff a ariennir gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) i ddangos sut y gellir mynegi’r gwerthoedd a’r nodweddion sylfaenol sydd ar waith yng Nghymru a thu hwnt mewn ffordd gadarnhaol.

Nododd Eluned Haf y gwnaed awgrym yn ystod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a gynhaliwyd yn ddiweddar bod angen diweddaru’r Strategaeth Ryngwladol.

Dywedodd Alison Woods – gan ddilyn trywydd sylwadau gan David a Catherine – y byddem yn cael ein grymuso petai gan y Strategaeth Ryngwladol ffocws ar ddatblygu partneriaethau gyda gwledydd âgwerthoedd sy’n cyfateb yn agos âgwerthoedd diwylliannol Cymru.

Dywedodd Heledd Fychan fod strategaeth ddiwylliannol newydd i Gymru yn yr arfaeth ac felly y gallai fod cyfle i ymgorffori rhai o’r pwyntiau ar werthoedd diwylliannol yn agwedd ryngwladol y strategaeth.

Mynegodd Claire O’Shea ddiddordeb yn y pwyntiau a gododd David am ddadwladychu. Dywedodd fod hyn wedi bod yn ffocws allweddol i Gymru Affrica, ac y byddai’n falch i rannu eu canfyddiadau. Nododd hefyd fod angen inni ystyried sut yr ydym yn gweithio’n rhyngwladol a bod yn effro i beryglon creu effaith negyddol, a bod angen i Gymru weithredu ar y cyd âgwledydd eraill ar faterion fel, er enghraifft, newid yn yr hinsawdd.

Nododd Helen Fychan nad oedd newid yn yr hinsawdd wedi bod yn elfen flaenllaw o’r Strategaeth Ryngwladol o’r blaen ac, o ystyried y diddordeb mawr yn COP26 a gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, bod hwn yn thema a oedd yn amlygu ei hun fwyfwy ac y gellid ei archwilio ymhellach.

Dywedodd David Anderson eu bod wedi cynnal rhaglen Hawliau Diwylliannol a Democratiaeth Ddiwylliannol yn y gwledydd Celtaidd (ee Yr Alban, Cymru a Gweriniaeth Iwerddon). Nododd eu bod yn gobeithio cynnal fersiwn estynedig a fyddai’n cynnwys Llydaw a Chernyw a chyfraniadau rhyngwladol (ee o America Ladin a Gogledd America); roedd yn meddwl tybed a oedd modd ystyried y gwledydd Celtaidd yn Ewrop a’r heriau o weithio mewn cyd-destun ôl-drefedigaethol gyda gwlad fwy pwerus (ee Ffrainc neu Loegr).

Nododd Eluned Haf y byddai ymgorffori Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog i’n gwaith diwylliannol rhyngwladol.

 

5.     Crynodeb y Cadeirydd

Diolchodd Heledd Fychan i bawb am eu hamser, y pwyntiau a godwyd a’r heriau iddi hi a Rhun fynd i’r afael â nhw fel Aelodau Senedd. Diolchodd hefyd i’r British Council am gydlynnu’r cyfarfod ac estynodd wahoddiad i bawb a gymerodd ran i gyflwyno sylwadau pellach ar y pwnc os oeddynt yn dymuno yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer pynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.